P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae Bysiau Arriva wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared ar wasanaeth X94, sy’n cysylltu trefi Abermo, Dolgellau, Bala, Corwen, Llangollen a Wrecsam, a phump o wasanaethau bws eraill ar 21 Rhagfyr eleni. Mae’r holl wasanaethau bws yma’n cysylltu cymunedau ledled Cymru â’i gilydd, o’r gogledd i’r de ac o’r dwyrain i’r gorllewin. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gellir osgoi cael gwared ar y gwasanaethau yma ac i’r ffordd orau o sicrhau a hyrwyddo gwasanaethau bysiau cenedlaethol sy’n cysylltu rhanbarthau Cymru â’i gilydd, yn enwedig lle nad oes gwasanaeth rheilffordd ar gael.

 

Prif ddeisebydd: Karen Dunford

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 494